-Busnesau'n Tyfu Ar Wyrddni |
|
|
|
|
Mae prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol mewn partneriaeth gyda BCBC a Rhwydwaith ARENA wedi trefnu dwy seminar Amgylcheddol o'r enw ‘Gwneud eich Busnes yn fwy Gwyrdd - Manteisiwch ar y Cyfle’ i helpu newid agweddau cwmnïau tuag at y mater hwn ac ysbrydoli Mentrau Bach a Chanolig (BaCh) i ystyried newid eu polisïau a’u gweithdrefn eu hunain.
Cynhaliwyd un o'n seminarau amgylcheddol cyntaf, a drefnwyd mewn partneriaeth gyda BCBC, yng Nghanolfan Dechnoleg Waterton ar 3 Hydref 2007 ac roedd y seminar yn llwyddiant gyda dros 50 o gwmnïau yn bresennol.
Mae'r ail ddigwyddiad yn cael ei drefnu ar y cyd gyda Rhwydwaith Arena ac Abertawe Gynaliadwy ac wedi ei noddi gan Envirowise ac fe’i cynhelir yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe ddydd Iau 29 Tachwedd 2007. Mae'r digwyddiad diweddaraf hefyd yn rhoi mwy o werth i'r rheiny sy'n mynychu trwy gynnig dewis o ddau weithdy am ddim, un ar Effeithlonrwydd Ynni ac un ar Leihau Gwastraff.
Trefnir y digwyddiadau hyn yn sgîl llwyddiant ein Digwyddiad Gwneud eich Busnes yn fwy Gwyrdd fis Medi diwethaf yn Stadiwm Liberty. Yn y digwyddiad, un o'r astudiaethau achos oedd Lewis Pies. Meddai Wilf Lewis, y Cyfarwyddwr:-
“Nid oes rhaid i'ch busnes ddioddef wrth wneud y dewis i fod yn fwy cynaliadwy. Mae yna gamau cymharol syml y gallwch eu cymryd er mwyn lleihau'r effaith sydd gennych ar yr amgylchedd. Mae'r camau hyn wedi torri rhai o'n costau rhedeg. Rwyf ond yn difaru na weithredais yn gynt.”
Bydd y ddau ddigwyddiad yn rhoi’r cyfle i’r cwmnïau i ddarganfod sut mae busnesau lleol wedi manteisio ar fanteision gwneud eu busnes yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd. O leihau gwastraff, effeithlonrwydd ynni ac ailgylchu, mae'r cwmnïau hyn wedi cydweithio'n agos â chynllun rheoli'r amgylchedd Green Dragon i weithredu nifer o fesurau, sydd nid yn unig yn gwneud synnwyr amgylcheddol, ond hefyd wedi helpu i leihau costau rhedeg y busnes.
Nid yw Busnes a'r Amgylchedd yn annibynnol ar ei gilydd. Mae newid yn yr hinsawdd yn cael sylw amlwg iawn yn y cyfryngau'r dyddiau hyn. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud rhywbeth i'w leihau, ac felly bydd yn dod yn ffactor mwy cyffredin pan fo cwmnïoedd yn cystadlu am waith fel rhan bwysig wrth gyflwyno cais am unrhyw dender. Yn sicr yn y dyfodol busnesau cynaliadwy fydd â’r fantais gystadleuol.
Mae'r seminar Gwneud eich Busnes yn fwy Gwyrdd wedi cydlynu gan y Siop Gontract a Datblygu Cyflenwyr Busnes Lleol, menter sy'n anelu at annog rhyngfasnachu ymysg busnesau lleol ac yn darparu'r bont rhwng cyfleoedd newydd a chwmnïau lleol, mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhwydwaith Arena.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i’r seminar ar 29 Tachwedd cysylltwch â Helen Beddow yn y Ganolfan Fusnes ar: 01792 545076
Nodiadau:
Mae'r seminarau Gwneud eich Busnes yn fwy Gwyrdd yn ddigwyddiadau am ddim.
Mae Datblygu Cyflenwyr Lleol a'r Siop Gytundebau yn brosiect trwy Gymru gyfan wedi’i ariannu gan Awdurdod Datblygu Cymru a'r UE trwy arian Amcan Un ac amcan dau. Mae wedi darparu ym Mae Abertawe gan Ganolfan Fusnes Abertawe (rhan o Ddinas a Sir Abertawe) a Chyswllt Busnes Castell-nedd Port Talbot. Mae Datblygu Cyflenwyr Lleol ynghyd â Gwefan y Siop Gytundebau yn darparu cysylltiad rhwng cyfleoedd newydd a chwmnïoedd lleol, mae hefyd yn darparu arbenigedd a'r wybodaeth o "beth sydd ei angen" i ennill busnes newydd. Mae'r prosiect i'w weld yn llwyddiant enfawr gyda thua £6 miliwn o fusnes wedi'i ennill yn yr ardal hon yn unig hyd yn hyn.
|
| < Blaenorol | Nesaf > |
|---|