-Wythnos Menter Gymdeithasol - Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol yn cael dechrau da |
|
|
|
|
Cynhelir Diwrnod Menter Gymdeithasol ar ddydd Iau, 15 Tachwedd 2007, sef cyfle i amlygu pwysigrwydd y Sector Gwirfoddol a Mentrau Cymdeithasol yn y gymuned fusnes gyffredinol. Mae e' hefyd yn rhan o'r ymgyrch "Gwnewch eich marc - Newidiwch Fywydau" i ysgogi pobl ifanc i ddefnyddio syniadau mentrus ar gyfer newid cymdeithasol ac amgylcheddol.
Yn ystod yr wythnos hon cynhelir digwyddiadau ledled Cymru gan Brosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol yn ogystal â Gwasanaethau Gwirfoddol Cynghorau lleol er mwyn dathlu'r diwrnod pwysig hwn.
Mae'r Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe wedi cael dechrau da trwy gynnal gweithdy Sut i Dendro ar 6 Tachwedd, yn benodol ar gyfer y Sector Gwirfoddol yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Gan sylwi pa mor brysur fyddai'r wythnos hon i'r mwyafrif y sefydliadau sydd ynghlwm â Diwrnod Menter Gymdeithasol, trefnwyd gweithdy ar y cyd â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot er hwylustod i sefydliadau lleol.
Roedd rhai o'r bobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol o Sefydliadau Menter Gymdeithasol yn bresennol, a darparwyd canllawiau iddynt ynglŷn â thendro am gytundebau sector cyhoeddus yn ogystal â gwybodaeth am sut i ganfod cyfleoedd busnes.
Croesawyd y gweithdy gan y rhai a aeth iddo, a dywedodd pob un ohonynt y bu'n fore werth chweil. Dywedodd Mr. Kirk Davies, Dirprwy CEO Age Concern Castell-nedd Port Talbot "Diolch yn fawr am ddigwyddiad llawn gwybodaeth heddiw. Mae'n bendant wedi cael gwared ar lawer o'r pryder ynghylch tendro am gytundebau.
Bydd Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol hefyd yn rhan o'r dathliad sydd i ddod ar gyfer Diwrnod Menter Gymdeithasol- "Math newydd o Fusnes - yn Darparu Gwasanaethau mewn Ffordd Newydd" a drefnwyd gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, yn yr Orendy, Margam ar ddydd Iau,15 Tachwedd.
Am fwy o wybodaeth am weithdai 'Sut i Dendro', cysylltwch â Helen Beddoe neu Alan Doyle ar This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it , Ffôn: 01792 545076; This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it , ffôn 01792 817575.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â digwyddiad "Math Newydd o Fusnes - Darparu Gwasanaethau Mewn Ffordd Newydd" cysylltwch a Carys Miles yn CGG Castell-nedd Port Talbot ar This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Gwasanaethau Gwirfoddol Cynghorau Lleol, gweler:
• Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe - www.scvs.org.uk |
| < Blaenorol | Nesaf > |
|---|