-Cyhoeddi Enwau Terfynol Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe 2007

PDF Argraffu  E-bost

Cyhoeddwyd enwau terfynol ar gyfer Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe 2007.

 

Nod y gwobrau mawereddog hyn yw cydnabod cyflawniadau menywod yn yr ardal a hyrwyddo enillwyr a fydd yn ysbrydoliaeth i eraill.

 

Meddai Sarah Toomey, cydlynydd y digwyddiad y Bae mewn Busnes, "Eleni, derbyniom fwy o ymgeiswyr nag erioed o'r blaen, ac roedd y gystadleuaeth yn frwd iawn, gyda'r beirniaid yn nodi ansawdd uchel yr ymgeiswyr a'r anhawster oedd yn eu hwynebu i ddewis enillwyr.  Mae'r seremoni wobrwyo eto'n argoeli i fod yn noson emosiynol a chyffrous iawn".

 

Yr enwau terfynol (yn nhrefn yr wyddor) yw'r canlynol:

 

Categori Busnes - Ar gyfer menywod sydd wedi sefydlu a datblygu eu busnes eu hunain yn llwyddiannus.
• Sian Hindle, La Crème Patisserie & Catering Co.
• Lara Johnson, Lara Johnson Lifestyle.
• Mari Thomas, Mari Thomas.

 

Categori'r Gymuned - Ar gyfer menywod sy'n cyfrannu'n sylweddol i'w cymuned, â phwyslais penodol ar wirfoddoli.  
• Eiriol Lewis a Marianne Thomas, Grŵp Pobl Hŷn Felinfoel.
• Hildergarde Roberts, Grŵp CLP Penclawdd a Chludiant Gwirfoddol Gŵyr.
• Deris Williams, Menter Cwm Gwendraeth.

 

Categori Rheoli - Cydnabod menywod sydd wedi arddangos sgiliau rheoli ac arwain cryf yn eu rôl, yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.
• Karen Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
• Yr Athro Andrea Liggins, Athrofa Abertawe.
• Sue Richards, Age Concern, Abertawe.

 

Categori Technoleg - Wedi ei anelu at fenywod byd busnes, addysg neu'r sector gwirfoddol sy'n cael effaith sylweddol o fewn eu sefydliad trwy ddatblygu neu reoli technoleg, ei rhoi ar waith neu ei symud ymlaen.
• Eileen Lloyd, Timet UK Ltd.
• Katherine Prescott, Netsima Ltd.
• Susan Rodaway, Athrawon Dros Dro.


Categori Entrepreneur Ifanc - Cydnabod menywod ifanc sydd wedi dangos menter ac awydd i sefydlu eu busnes eu hunain yn llwyddiannus.

• Donna Carless, Dynamic Rock
• Helen Rhiannon Gill, Helen Rhiannon.
• Sian Ridd, Molly’s Catering.


Meddai Paul Newman, o John Collins and Partners, noddwyr y digwyddiad, "Mae rhestr yr enwau terfynol yn hynod nodedig, y mae pob un yn haeddu ennill. Rydym wrth ein boddau bod yn rhan o'r gwobrau unwaith eto, ac edrychaf ymlaen i glywed am y cyflawniadau personol a phroffesiynol y mae'r unigolion hynod hyn wedi eu cyflawni.

"Trwy ystod eang o gategorïau mae menywod â llawer o ddoniau gwahanol, a phob un mor bwysig a'i gilydd. Gwych o beth yw bod rhanbarth Bae Abertawe'n cydnabod ac yn gwobrwyo'r unigolion hyn. Edrychaf ymlaen yn fawr at gyflwyno'r teitl mawreddog i Fenyw y Flwyddyn Bae Abertawe". 

 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni fawreddog a noddir gan John Collins & Partners LLP.  Cyflwynir y cinio a'r gwobrau gan Sara Edwards o BBC Wales yn Neuadd Brangwyn, Abertawe nos Wener 30 Tachwedd.

 

Am wybodaeth bellach am y gwobrau, cysylltwch â Sarah Toomey, Cydlynydd y Bae mewn Busnes ar 01792 545066 / This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it

 
< Blaenorol   Nesaf >