-Y nifer uchaf erioed o enwebiadau ar gyfer Gwobrau'r Menywod
|
|
|
|
|
Mae trefnwyr Gwobrau Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe wedi derbyn y nifer mwyaf eriod o enwebiadau ar gyfer digwyddiad mis Tachwedd.
Trefnir y gwobrau gan y Bae mewn Busnes ac fe'u noddir gan John Collins and Partners LLP, ac maent yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau menywod ledled rhanbarth Bae Abertawe. Derbyniwyd dros 90 enwebiad mewn 5 categori, sy'n uwch nag unrhyw flwyddyn flaenorol. Llunnir rhestr fer o'r enwebiadau'n, gyda 15 ohonynt yn mynychu'r seremoni wobrwyo, a gynhelir yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar 30 Tachwedd. Bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan Sara Edwards o BBC Cymru a'r comedïwr arobryn Jenny Éclair fydd y siaradwr gwadd. Dywedodd Sarah Toomey, cydlynydd y digwyddiad: “Bu lefel y diddordeb yn uchel eleni ac rydym ni fel trefnwyr wedi cael ein synnu gan ansawdd uchel yr enwebiadau. Mae hyn yn mynd i wneud swydd y beirniaid yn un hynod o anodd.” Y “Categori Busnes” ddenodd y mwyaf o enwebiadau, gyda 30 ohonynt, y nifer mwyaf erioed. Meddai Paul Newman, Partner Rheoli John Collins and Partners Solicitors: "Mae nifer yr enwebiadau'n adlewyrchu twf, cryfder ac ymrwymiad menywod ledled Bae Abertawe. Mae nifer o fenywod yn creu argraff yn eu meysydd dewisol bob dydd ac mae'r gwobrau hyn yn cydnabod y rhan anferthol y maent yn ei chwarae yn nhwf parhaus yr economi leol a lles y gymuned." Nodiadau Mae'r pum categori'n cynnwys: Busnes, y Gymuned, Rheolaeth, Technoleg ac Entrepreneur Ifanc.
Bydd y rheiny sy'n cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer pob categori yn mynychu'r seremoni wobrwyo i gystadlu am eu teitl ac am brif deitl Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe 2007. - Cynhelir y gwobrau yn Neuadd Brangwyn, Abertawe nos Wener 30 Tachwedd.
- Byddant yn cael eu cyflwyno gan Sara Edwards gyda'r siaradwr gwadd Jenny Éclair. Mae tocynnau ar gael i'r cinio a'r gwobrau ar sail y cyntaf i'r felin am £38 yr un. I archebu lle, cysylltwch â Sarah Toomey ar 01792 545066 /
This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it
|