-Parhau i Chwilio am Fenyw y Bae y Flwyddyn |
|
|
|
|
Mae trefnwyr Gwobrau Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe'n annog pobl o un cwr o'r bae i'r llall i gyflwyno enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni.
Dyma bedwaredd flwyddyn y gwobrau ac unwaith eto y noddwyr yw'r cwmni o gyfreithwyr John Collins & Partners Solicitors LLP. Mae'r gwobrau'n cydnabod cyflawniad menywod mewn pum maes: Busnes, y Gymuned, Entrepreneuriaeth, ac yn newydd ar gyfer 2007, Rheolaeth a Thechnoleg.
Meddai Emma, "Mae derbyn y wobr hon eisoes wedi bod o fantais i'n busnes, a mwynheais y broses wobrwyo gyfan. Cefais amser gwych yn y seremoni fis Tachwedd y llynedd. Byddwn yn bendant yn annog pobl i enwebu ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr ar gyfer y gwobrau hyn - bu'n brofiad gwych i mi a'r busnes”.
Ychwanegodd Paul Newman, Partner Rheolwr y cwmni cyfreithwyr John Collins & Partners, "Mae ein cwmni cyfreithwyr wedi bod yn brif noddwyr y digwyddiad ers 2004 a phob blwyddyn mae hanesion a chyflawniadau'r menywod hyn wedi gwneud argraff arnaf. Mae John Collins and Partners Solicitors yn falch o noddi'r gwobrau a byddwn yn annog pob menyw sy'n cyflawni i gymryd rhan.”
Er mwyn eich enwebu chi'ch hun neu unrhyw fenyw sydd yn eich barn chi wedi cyflawni yn unrhyw un o'r pum categori ewch i www.thebayinbusiness.com a chlicio ar ddigwyddiadau rhanbarthol allweddol i argraffu ffurflen enwebu. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 7 Medi 2007.
Bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar gyfer pob categori a bydd y bobl hynny yn dod i'r ginio a'r seremoni wobrwyo nos Wener 30 Tachwedd yn Neuadd Brangwyn, Abertawe lle byddant yn cystadlu yn eu categori am deitl cyffredinol Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe 2007.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad neu i archebu tocynnau, cysylltwch â Sarah Toomey ar 01792 545066
This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it
|
| < Blaenorol | Nesaf > |
|---|