-Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cyflawnwyr Ifanc

PDF Argraffu  E-bost

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Cyflawnwyr Ifanc Bae Abertawe 2007, a noddir gan y cwmni dosbarthu nwy Wales & West Utilities, mewn seremoni llawn gweithgareddau ar 27 Mehefin a gyflwynwyd gan gyn-ddrymiwr y Stereophonics, Stuart Cable.

 

 

Daeth dros 220 o bobl ar draws Bae Abertawe ynghyd yn Orendy Margam i ddathlu cyflawniadau'r bobl ifanc a chydnabod y cyfraniad maen nhw'n ei wneud i'w cymunedau drwy fusnes, hyfforddiant, addysg a gwaith gwirfoddol. Roedd y noson hefyd yn cynnwys cerddoriaeth fyw a chyswllt byw â rhaglen nos Jonny B ar 96.4FM The Wave.

 

Yr enillwyr oedd:


• Gwobr Cyflawnydd Busnes: Helen Gill, Helen Rhiannon.


• Gwobr Gwirfoddolwr Cymunedol: Daniel Pink


• Gwobr Cyflawnydd Twristiaeth: Claire Cole, Y Marriott, Abertawe


• Gwobr Byd Gwaith: Andrew Kent


• Gwobr Menter yr Ifanc:
Rhaglen Lefel 1, ‘Pots of Love’, Ysgol Gyfun Emlyn
Rhaglen Lefel 2, ‘Allsorts’, Ysgol Gyfun Cefn Saeson

 

Cafodd panel o feirniaid y dasg anodd o ddewis yr 14 enw terfynol ar y rhestr fer, ymysg dros 80 o enwebiadau.

 

Proffiliau Enillwyr


• Gwobr Cyflawnydd Busnes a noddir gan y Ganolfan Fusnes, Abertawe: rhoddir i berson busnes ifanc sydd wedi dangos creadigrwydd a gweledigaeth wrth sefydlu a rhedeg busnes.
Enillydd: Helen Gill, Helen Rhiannon.  Mae Helen yn ddylunydd ffasiwn a lansiodd ei chreadigaethau ei hunan yn 2005 gyda'r label 'Helen Rhiannon'.  Mae Helen yn dylunio, yn cynhyrchu, yn marchnata ac yn rheoli ei busnes ei hunan ac yn ddiweddar mae wedi lansio'i gwefan ei hun.  Mae ei gwaith wedi cael llawer o sylw gan y wasg leol ac wedi ymddangos ar y teledu fel rhan o brosiect 'Cool Cymru' i godi arian ar gyfer Ysbyty Plant Cymru a welodd y seren opera, Katherine Jenkins yn gwisgo ffrog 'Helen Rhiannon' a ddyluniwyd yn arbennig.

Y bobl ddaeth yn ail yn y categori hwn oedd Donna Carless o Dynamick Rock ac Emily Jones o Pemberton's Victorian Chocolates.

 

• Gwobr Gwirfoddolwr Cymunedol a noddir gan Gyngor Sir Gâr: rhoddir i unigolion cydnabyddedig sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r gymuned y maen nhw'n byw neu'n gweithio ynddi.
Enillydd: Daniel Pink.  Symudodd Daniel o dde Lloegr i Flaendulais ac roedd mewn sefyllfa lle'r oedd yn rhaid iddo wneud ffrindiau newydd a dod o hyd i waith yn yr ardal.  Bachodd ar y cyfle a gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Garddio Cwm Dulais.  Mae'r gwasanaeth yn galluogi pobl i fyw'n annibynnol a gwella iechyd a lles y rheiny sy'n ynysig yn gymdeithasol neu'n byw ar eu pennau eu hun.  Mae'r gwaith gwirfoddol hwn wedi caniatáu Daniel i adennill ei hyder a gwneud ffrindiau newydd.  Bellach, mae'n chwilio am waith cyflogedig tymor hir gyda Gweithffyrdd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Y bobl ddaeth yn ail yn y categori hwn oedd Ian Rees a Katie Louise Davies.

 

• Gwobr Cyflawnydd Twristiaeth a noddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: anelwyd y wobr hon at y rheiny sy'n gweithio o fewn y sector twristiaeth, hamdden neu letygarwch sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r diwydiant twristiaeth.
Enillydd: Claire Cole, Y Marriott, Abertawe.  Cychwynnodd Claire yn y diwydiant lletygarwch ym 1993 fel gweinyddes gwasanaeth arian a thrwy ymrwymiad a gwaith caled mae wedi cyrraedd ei swydd bresennol fel Cydlynydd Priodasau yng Ngwesty'r Marriott, Abertawe.  Mae Claire wedi ennill achrediad fel Trefnydd Priodasau Llawn Llawenydd ac mae hefyd wedi cyflwyno nifer o fentrau newydd yn cynnwys Cystadleuaeth "Win a Dream Wedding" y Marriott sydd wedi cael ei henwebu am wobr genedlaethol.

Y bobl ddaeth yn ail yn y categori hwn oedd James Martin o Call of the Wild a Natalie Daveis o Fferm Clun.

 

• Gwobr Byd Gwaith a noddir gan Gyrfa Cymru - Gorllewin: nod y wobr hon oedd cydnabod cyflawniadau'r rheiny sydd wedi llwyddo i oresgyn rhwystrau a chael cyflogaeth lawn amser.
Enillydd: Andrew Kent.  Mae Andrew yn gweithio fel Mentor Cyfoedion gyda Thîm Troseddau Ieuenctid Abertawe yng Ngholeg Gorseinon. Mae'n mentora pobl ifanc 8 i 16 oed i'w helpu i oresgyn problemau yn yr ysgol, yn y cartref neu yn y gymuned.  Mae Andrew yn deall y problemau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu gan ei fod wedi gorfod goresgyn nifer o broblemau ei hun er mwyn cyrraedd ei safle heddiw.  Bydd y cymwysterau y mae wedi'u hennill yn ddiweddar yn ei alluogi i ddatblygu yn ei waith gyda'r Tîm Troseddau Ieuenctid a bydd yn gymwys i wneud cais am Swydd Gweithiwr Prosiect.

Y bobl ddaeth yn ail yn y categori hwn oedd Peter Jones a Robert Howells.

 

• Gwobr Menter yr Ifanc a noddir gan Western Power: mae'r wobr hon yn dathlu Enillwyr Rhanbarthol Gwobrau Menter yr Ifanc eleni (Rhaglen Lefelau 1 a 2).


Enillydd Rhaglen Lefel 1: ‘Pots of Love’, Ysgol Gyfun Emlyn.  Grŵp o 8 disgybl o Ysgol Gyfun Emlyn, Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yw Pots of Love.

Mae eu cwmni'n gwerthu potiau wedi'u lapio â llaw a'u llenwi gyda chalonnau siocled, tedis anwes, cywion Pasg, amrywiaeth o gynnyrch tymhorol yn ogystal ag anrhegion anghyffredin i'r person arbennig hwnnw.

Gwerthwyd cynnyrch mewn nosweithiau rhieni ysgolion, Ffeiriau Crefft lleol a Marchnad Ffermwyr Hwlffordd.  Ar ben hynny, cytunodd busnes lleol, Phillip Ling Estate Agents, werthu cynnyrch y cwmni yn eu swyddfa ac mae hyn wedi cyfrannu'n sylweddol at elw cyffredinol y cwmni.

Mae gan sefydlwyr Pots of Love 3 phrif nod: dysgu sut mae busnes yn gweithio; gwneud arian o'r busnes; a chael llawer o hwyl wrth wneud.

 

Enillwyr Rhaglen Lefel 2: ‘Allsorts’, Ysgol Gyfun Cefn Saeson.  18 mis yn ôl, ffurfiodd tîm blaengar o ddisgyblion dylunio technoleg Blwyddyn 10 gwmni Menter yr Ifanc o'r enw Desktop. 

Roedd enw'r cwmni yn adlewyrchu eu cynnyrch megis matiau llygoden, matiau diod a chlociau. Wrth i'r gwanwyn nesáu, penderfynodd y disgyblion amrywiaethu ac roedd ymchwil marchnad yn awgrymu mai cynnyrch i'r ardd oedd y ffordd ymlaen.  Defnyddiodd y cwmni ddull cyfeillgar i'r amgylchedd a phenderfynu defnyddio paledi pren wedi'u hailgylchu i gynhyrchu planwyr, blychau nythu a chelfi cyffredinol i'r ardd.  Er mwyn adlewyrchu eu portffolio eang o gynnyrch, newidiwyd enw'r cwmni i Allsorts.

Dywedodd Jackie Roe, Rheolwr Materion Corfforaethol noddwyr y Gwobrau, Wales & West Utilities, "Roeddem wrth ein bodd yn cefnogi'r gwobrau arbennig iawn hyn. Roedd yn bleser pur cwrdd â'r bobl a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r enillwyr - pobl ifanc sy'n gwneud gwahaniaeth i'r gymuned yma ym Mae Abertawe.  Mae pob un o'r ymgeiswyr yn haeddu cydnabyddiaeth am eu hymdrechion.  Roedd pawb yn enillwyr mewn gwirionedd - llysgenhadon gwych i Fae Abertawe".

 


Am ragor o wybodaeth am Wobrau Cyflawnwyr Ifanc Bae Abertawe, cysylltwch â Sarah Toomey, Cydlynydd Digwyddiadau'r Bae mewn Busnes 01792 545066.

 
< Blaenorol   Nesaf >