-Cwmnïau Tacsis yn cael help wrth Dendro |
|
|
|
|
Gall tendro am y tro cyntaf fod yn broses anodd iawn, yn enwedig i rai unigolion a chwmnïau mewn sectorau arbennig, megis gwasanaethau tacsis. Prosiect cefnogi busnesau yw'r Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol sy'n gweithredu dros Gymru gyfan ac sy'n gallu helpu. Ble bynnag rydych chi bydd rhywun yno i roi help llaw.
Mae Datblygu Cyflenwyr Lleol wedi bod yn gweithio gyda Dinas a Sir Abertawe i ddarparu help a chefnogaeth i gwmnïau tacsis ar draws Abertawe a'r de-orllewin.
Mae Dinas a Sir Abertawe wedi adolygu eu trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau tacsi ac yn newid eu prosesau tendro ar gyfer y gwasanaethau hyn drwy'r awdurdod i gyd. Bydd y fframwaith contractau newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2008 a bydd yn werth mwy na £15 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd.
Daw'r contract newydd o dan ganllawiau caffael yr Undeb Ewropeaidd sy'n gosod proses ffurfiol y mae'n rhaid ei dilyn. Mae hwn yn brofiad cwbl newydd i lawer o ddarparwyr tacsis, a dyma pam mae'r Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol wedi dod i'r adwy. Trefnodd y prosiect hwn, sy'n cael ei redeg yn ardal Bae Abertawe gan Ganolfan Fusnes Abertawe a Chyswllt Busnes CNPT, sesiynau Ymwybyddiaeth Cyflenwyr ar gyfer yr holl yrwyr tacsis a chwmnïau llogi cerbydau eraill a daeth mwy na 100 o gyflenwyr dros y ddau ddiwrnod.
Yn dilyn hyn dosbarthwyd cam cyntaf y tendro, sef yr Holiaduron Cyn Cymhwyso, i'r holl gwmnïau â diddordeb a rhoddwyd cyngor ac arweiniad dros y ffôn ac un i un i lawer o gyflenwyr. Mae'r cyflenwyr llwyddiannus sydd wedi dod drwy'r cam HCC bellach yn cael eu gwahodd i Dendro ar gyfer y contract fframwaith.
Y terfyn amser ar gyfer cwblhau'r dogfennau tendro yw 23 Gorffennaf 2007 ac mae'r PDCLl, drwy eu Hyrwyddwr Cyflenwyr, Alan Doyle, a'r Cydlynydd Helen Beddow unwaith eto yno i gynnig help llaw i gyflenwyr drwy'r broses hon.
Mae'r contract Tacsis wedi defnyddio'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a gynigir gan y Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol lle mae'r angen mwyaf. Gyda rhai o'r cyflenwyr yn mynd drwy'r broses dendro hon am y tro cyntaf, mae'r gefnogaeth wedi bod yn werthfawr iawn.
Os oes angen mwy o help arnoch gyda'r contract hwn neu os oes gennych eich tendrau eich hun lle mae angen cefnogaeth a chyngor arnoch yn ardal Abertawe, Castell-nedd Port Talbot neu Ben-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â'r canlynol:
I gael mwy o wybodaeth am y Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol a dod yn aelod o'n gwefan Siop Gontractau, ewch i www.contractshop.co.uk neu cliciwch ar y dudalen ar Wefan y Ganolfan Fusnes. |
| < Blaenorol | Nesaf > |
|---|