-Cyfle i Gwmnïau Lleol gael eu "Traed dan y Bwrdd"!

PDF Argraffu  E-bost

Mae cwmnïau lleol bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddenu mwy o gwsmeriaid a byddai'n well gan rai o'n sefydliadau mwy yma ym Mae Abertawe brynu'n lleol petaent yn gallu dod o hyd i'r cwmnïau priodol i weithio gyda hwy. Yn aml iawn mae llawer ohonynt yn colli ei gilydd neu o leiaf byth yn cael cyfle go iawn i gwrdd.

Yn ffodus, mae pethau'n newid, ac yn helpu i hybu'r newid hwnnw er gwell y mae'r fenter Datblygu Cyflenwyr Lleol, a gynhelir yn ardal Bae Abertawe gan Ganolfan Fusnes Abertawe a Chyswllt Busnes Castell-nedd Port Talbot, gan gynorthwyo busnesau bach lleol i fasnachu â'u cymdogion mwy, boed y rheiny yn y sector preifat neu gyhoeddus.

 

Mae busnesau lleol eisoes wedi elwa o'u hymdrechion drwy ennill gwaith y mae'n bosib na fyddent fel arall yn ymwybodol ohono:-

 

Aeth Dean Heath o DG Heath, busnes teulu o Bontarddulais sy'n arbenigo mewn lloriau pren caled, laminad a ffensys, i ddigwyddiad "Cwrdd â'r Prynwr" ym mis Mai 06 a drefnwyd gan Ddatblygu Cyflenwyr Lleol, gan gwrdd â sawl sefydliad sector cyhoeddus. O ganlyniad uniongyrchol i'r cyfarfodydd hynny, mae'n derbyn archebion rheolaidd gan ddau sefydliad sydd wedi dod i bron £30,000 yn ystod y 6 mis diwethaf. Dywedodd Dean Heath; “Dyma'r dechrau yn unig, am ein bod yn dal i dderbyn archebion. I ddechrau gwnaethom ymuno â'r rhestrau cyflenwyr cymeradwy ar gyfer sawl sefydliad, ond ychydig iawn o waith a gawsom drwy wneud hynny yn unig. Y gwahaniaeth oedd cael cyfle i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb â'r prynwyr a dangos yn union beth mae ein busnes yn gallu'i wneud. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae'n sicr yn werth mynd i'r digwyddiadau hyn”.

 

Aeth Ken Wheeler o Phonelink yn Abertawe, sy'n cyflenwi ac yn gosod systemau ffôn a rhwydweithiau data, i i ddigwyddiad Cwrdd â'r Prynwr cynharach, gan fynd o nerth i nerth ers hynny. Mae cyfarfod gydag un sefydliad yn arbennig wedi'i helpu i sicrhau gwerth mwy na £34,000 o waith hyd yma. Meddai Ken, "Fe'n gwahoddwyd i wneud cryn dipyn o waith yn dilyn ein cyfarfod yn y digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr. Rwy'n siŵr bod proffil y cwmni wedi codi trwy fynd i'r digwyddiadau hyn a bod cyfleoedd contractio eraill wedi dod i'r amlwg o ganlyniad iddo.”

 

Daw llwyddiant yn y digwyddiadau hyn o gyfeiriadau annisgwyl hefyd. Cafodd 'Rock Monkeys' gais am waith gan ysgol leol a oedd yn chwilio am weithgaredd amgen i ddifyrru'r plant. Mae wal ddringo symudol Rock Monkeys yn darparu hyfforddiant dringo yn y lleoliad mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid ac yn y gweithle.

 

Meddai Helen Beddow, Cydlynydd Datblygu Cyflenwyr Lleol Abertawe, "Dyma rai enghreifftiau yn unig o'r llwyddiant y gellir ei gyflawni. Nod y digwyddiadau hyn yw helpu busnesau lleol i gael eu 'troed dan y bwrdd' gyda sefydliadau allweddol yn ein hardal. Mae Prynwyr yn y Sector Cyhoeddus yn cefnogi ein digwyddiadau'n frwd ac yn croesawu'r cyfle i gysylltu â chwmnïau lleol yn y gobaith o ddod o hyd i gyflenwyr. Gobeithiwn hefyd y bydd mwy o sefydliadau'r sector preifat yn ymuno â ni fel prynwyr i helpu i chwarae eu rhan yn economi Bae Abertawe.”

 

Cynhelir mwy o ddigwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr ledled Cymru gan y Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol. I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ewch i'r dudalen ddigwyddiadau ar wefan y siop gytundebau, neu cysylltwch â'r Hyrwyddwr Cyflenwyr yn eich ardal chi. http://www.contractshop.co.uk/


I gael mwy o wybodaeth am Ddatblygu Cyflenwyr Lleol, y Siop Gytundebau a digwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â Helen Beddow yn y Ganolfan Fusnes ar 01792 545076 neu Alan Doyle, Hyrwyddwr Cyflenwyr yng Nghyswllt Busnes ar 01792 817575. 

 


Busnes teulu hen sefydledig ym Mhontarddulais yw DG Heath Timber Products Ltd sy'n arbenigo mewn dosbarthu lloriau pren caled a laminad solet, ffensys, paledi plastig a phecynnu plastig y gellir ei ailddefnyddio yn ogystal â chynhyrchu paledi a chasys pren. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Dean Heath ar 01792 884828, www.dgheath.co.uk  

Cwmni o Abertawe yw Phonelink a sefydlwyd ym 1994 i gyflenwi a gosod Systemau Ffôn a Rhwydweithiau Data. Mae ganddo enw da am ansawdd a gwasanaeth, gan arbenigo ym mhob agwedd ar Delathrebu, rhwydweithiau Data, technoleg Ffeibr, cysylltedd Di-wifr, Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VOIP), Gosod a Chynnal a Chadw. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Ken Wheeler neu David O’Rourke ar 01792 875999, www.phonelink-inst.co.uk.

  Mae Wal Ddringo Symudol Rock Monkeys yn darparu hyfforddiant dringo yn y lleoliad mewn ysgolion, i grwpiau ieuenctid ac yn y gweithle gan osgoi problemau cludiant costus sy'n cymryd amser. Y nod yw annog pobl o bob oedran i gymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored diogel, cyffrous, deinamig ac anturus. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Liz Davies ar 01792 366062, www.rockmonkeys.co.uk

 
< Blaenorol   Nesaf >