-Cynlluniau Ar Gyfer Canolfan Eira Dan Do Yn Abertawe |
|
|
|
|
Gallai cyrchfan hamdden newydd gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn cynnwys y ganolfan eira dan do gyntaf yng Nghymru gael ei greu yn Abertawe.
Mae cwmni hamdden a chwaraeon am ddatblygu'r cyrchfan ar safle'r hen lethr sgïo awyr agored yn y Morfa a gaeodd sawl blwyddyn yn ôl.
Byddai'r cyrchfan newydd yn cynnwys canolfan eira dan do gydag ardal sgïo, llawr iâ, spa iechyd a ffitrwydd, bwytai a siopau.
Bydd y cyrchfan yn defnyddio proses arloesol o wneud eira, y cyntaf o'i bath yn y byd, sy'n ailgylchu ac yn puro d?r glaw a'i droi'n blu eira a fydd yn gallu darparu eira ffres ar gyfer y llethr bob dydd.
Mae Multi Sports Resorts LLP, y bartneriaeth sector preifat sydd y tu ôl i'r cynlluniau, hefyd am adeiladu dau westy a chanolfan gynadledda i'r dwyrain o Ffordd Nantong a datblygu Llyn Pluck gerllaw ar gyfer rhwyfo, can?io a physgota.
Gallai'r datblygiad arfaethedig greu mwy na 460 o swyddi.
Os caiff ei ganiatáu, bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul cam dros dair blynedd gyda'r ganolfan eira'n rhan o'r cam cyntaf.
Byddai'r cyrchfan, sy'n cefnogi'r amgylchedd, yn defnyddio paneli solar a thyrbin gwynt i greu ynni a d?r glaw a ailgylchwyd yn y ganolfan eira. Daw'r cynigion gerbron Cabinet Cyngor Abertawe ddydd Iau nesaf (7 Mehefin) pryd y gofynnir i gynghorwyr ymrwymo i gytundeb datblygu gyda'r cwmni. Mae'r bartneriaeth wedi caffael y brydles bresennol ar gyfer safle'r hen lethr sgïo awyr agored a byddai'n prynu mwy o dir sydd ym meddiant y Cyngor ar hyn o bryd.
Dywedodd Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r cynigion hyn yn gyffrous iawn a byddent yn cael effaith enfawr ar Abertawe a'i diwydiant twristiaeth.
"Byddai'r cyrchfan arfaethedig yn cynnwys y ganolfan eira dan do gyntaf yng Nghymru a allai ddenu ymwelwyr o bob rhan o Gymru a De-orllewin Lloegr.
"Byddai'n rhoi hwb economaidd enfawr i Abertawe gyfan, ac yn adfywio ardal y Morfa ymhellach sydd wedi elwa yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgîl agor Stadiwm Liberty, canolfan fanwerthu gerllaw ac ailddatblygiad parhaus safle Addis.
"Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r bartneriaeth a pherchennog y safle am fisoedd lawer. Rydym bellach mewn sefyllfa i gymryd y cam nesaf, sef amlinellu'r egwyddorion sylfaenol ar gyfer cytundeb cyfreithiol i ddatblygu'r cynnig hwn.
"Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i wireddu'r cynnig hwn, ond byddwn yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau ei lwyddiant."
Dywedodd Alistair Johns, partner yn Multi Sports Resorts LLP, "Rydym yn gyffrous ynghylch y cyfle hwn yn Abertawe, sy'n ddinas arbennig gyda chymaint o adnoddau naturiol.
"Rydym yn bwriadu defnyddio'r dechnoleg fwyaf blaengar yn y byd a dulliau sy'n cefnogi'r amgylchedd i greu'r cyrchfan hwn. Y ganolfan eira fydd y cyntaf o'i bath yn y byd, gan greu plu eira a fydd yn gallu ailorchuddio'r llethr bob dydd.
"Yn wahanol i ganolfannau sgïo dan do eraill y mae angen tymereddau isel iawn arnynt, bydd y dechnoleg y byddwn yn ei defnyddio'n galluogi pobl i sgïo mewn llewys byrion, tra'n cynnal eira ar y llethr."
Ffurfiwyd Multi Sports Resorts LLP ar gyfer y prosiect penodol hwn, gan ddod ag Edglade Properties Ltd a Snowmakers UK Ltd ynghyd. Mae Edglade wedi bod yn gysylltiedig â nifer o gynlluniau datblygu mawr yn Lloegr, tra bod Snowmakers yn arbenigo mewn dylunio a gwneud peiriannau ac offer ar gyfer canolfannau eira yn y du. |
| < Blaenorol | Nesaf > |
|---|