-Gobeithion i ehangu prosiect lleoliadau gwaith

PDF Argraffu  E-bost

Mae cyflogwyr lleol yn Abertawe'n cael eu hannog i helpu i ddatblygu doniau cudd pobl ifanc yn Abertawe.

 

Mae prosiect addysg newydd sbon ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 11 sy'n gysylltiedig â gwaith wedi cael ei beilota'n llwyddiannus yn ein dinas.

 

Dewiswyd disgyblion i gymryd rhan yn eu rhaglen alwedigaethol unigol eu hunain a roddodd brofiad gwaith iddynt am un diwrnod yr wythnos. Gwnaeth hyn eu galluogi i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd pwysig ac ennill NVQ mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid.

 

Ddydd Mercher (9 Mai), caiff gr?p o 22 o fyfyrwyr Blwyddyn 11 o bob rhan o Abertawe eu gwobrwyo am gyflawni'r prosiect peilot. Byddant yn derbyn eu tystysgrifau yng Nghanolfan Hyfforddi Cyflogaeth y Cyngor, sydd wedi darparu'r asesydd NVQ ar gyfer y cynllun.

 

Yn ôl Marcia Vale, Cydlynydd 14 i 19 Cyngor Abertawe, roedd y bobl ifanc a ymunodd â'r cynllun yn ymroddedig ac yn uchel eu hysgogiad.

 

"Cafodd y cyflogwyr a'r bobl ifanc eu paru'n ofalus.

 

"Derbyniodd y cyflogwyr a ymunodd â'r prosiect hyfforddiant priodol ac mae gan bob person ifanc fentor sy'n eu harwain trwy'r tasgau yn y gweithle."

 

"Yn y flwyddyn academaidd newydd rydym am ehangu'r rhaglen hon i gynnwys mwy o ddisgyblion a chyflogwyr. Sefydlwyd Fforwm Cyflogwyr er mwyn galluogi cyflogwyr sy'n cymryd rhan i reoli a goruchwylio ansawdd y prosiect."

 

Dywedodd Keith Griffiths o Sinclair Garages ym Mhenllergaer fod y rhan a chwaraewyd ganddynt yn y peilot wedi bod yn llwyddiant.

 

"Penderfynwyd ymuno â'r cynllun am ddau reswm mewn gwirionedd. Un oedd ein bod yn teimlo y gallem gynnig cyfle i fyfyrwyr fagu llawer o sgiliau'r gweithle, a'r fantais i ni yw nad oes angen mynd trwy'r broses gyfweld a recriwtio. Petai swydd yn dod yn wag, yna byddwn eisoes yn gwybod pa fyfyrwyr sydd wedi bod yn ddibynadwy ac y gallwn ymddiried ynddynt."

 
< Blaenorol   Nesaf >