-Futurallia 6 at 'n 9 Mehefin 2007 ar gyfer Masnachu Rhyngwladol. |
|
|
|
|
Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Partneriaeth Bae Abertawe, ynghyd â Busnes Rhyngwladol Cymru, wrthi'n recriwtio cwmnïau i fynd i Futurallia eleni. Gall busnesau lleol o Sir Gaerfyrddin i Gastell-nedd Port Talbot achub ar y cyfle i gryfhau eu rhwydweithiau tramor a nodi cyfleoedd newydd yn y farchnad drwy fynd i'r fforwm busnes rhyngwladol tri diwrnod hwn.
Cynhelir Fforwm Busnes Futurallia eleni yng nghynefin y prif drefnwyr yn Poitier, Ffrainc yn ardal La Vienne, sef croesffordd Ewrop. Byddant yn defnyddio cyfleusterau gwych Futurescope i gynnal cyfarfodydd un i un, rhwydweithio a llety.
Fforwm busnes rhyngwladol yw'r digwyddiad a gynhelir o 6 - 9 Mehefin, gyda hyd at 1,000 o gwmnïau o fwy na 40 o wledydd yn bresennol. Trefnir cyfarfodydd un i un gyda phob cyfranogydd yn dewis hyd at 20 cyfarfod o gatalog ar-lein. Yn ogystal â'r rhaglen lawn o gyfarfodydd a drefnwyd, rhoddir cyfle i gwmnïau ddysgu am nodweddion diwylliannau eraill hefyd.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Futurallia ewch i www.futurallia.com . Os hoffech fynd i'r digwyddiad cysylltwch â Donna Davies yng Nghanolfan Fusnes Abertawe ar 01792 545050 neu e-bostiwch This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it . Diogelir y cyfeiriad e-bost hwn rhag negeseuon sbam, felly mae angen Javascript arnoch i'w weld. Cyflwynir y digwyddiad hwn i chi gan Bartneriaeth Bae Abertawe a Busnes Rhyngwladol Cymru. |
| < Blaenorol | Nesaf > |
|---|