Yr Adolygiad Busnes |
|
|
|
|
Gwasanaeth diduedd ac am ddim yw'r Adolygiad Busnes sy'n cyflwyno cwmnïau sefydledig sydd â sawl gweithiwr i Wasanaethau'r Ganolfan Fusnes.
Mae Adolygiad Busnes yn rhoi cyfle i reolwyr gamu'n ôl o weithrediadau pob dydd ac ystyried y busnes yn wrthrychol. Mae rheolwyr sydd wedi cyflawni Adolygiad Busnes yn aml yn disgrifio teimlad o "allu gweld yr hyn sydd dan eich trwyn".
Mae ymgynghorydd yn arwain y busnes drwy'r broses ac yn cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig. Nid oes angen i reolwyr ddelio â mân faterion dyddiol am fore cyfan a gallant gynllunio'n strategol ar gyfer y dyfodol tymor byr a hir. Nod yr Adolygiad yw canfod…
• Beth yw'r sefyllfa bresennol?
Mae'r Adolygiad yn archwilio agweddau amrywiol ar y busnes gan gynnwys cyllid, gweithrediadau a phrosesau, pwy yw'r cwsmeriaid ac adnoddau dynol. Mae hyn yn galluogi'r busnes i sefydlu cryfderau y dylid adeiladu arnynt, gwendidau i'w goresgyn, cyfleoedd newydd i fanteisio arnynt a bygythiadau i'w hosgoi.
• Beth yw'r nod?
Drwy sefydlu nodau clir ar gyfer y dyfodol, gall y busnes rannu ei weledigaeth ganolog hir dymor yn amcanion cyflawnadwy llai.
• Sut mae cyrraedd y nod?
Cytunir ar gynllun gweithredu gyda'r ymgynghorydd gan alluogi'r busnes i flaenoriaethu a rhoi gweithgareddau ar waith a fydd yn helpu'r busnes i fod yn fwy effeithiol ac yn y pendraw, yn fwy proffidiol. |