Datblygu Cyflenwyr Lleol a'r Siop Gytundebau

PDF Argraffu  E-bost

Mae'r prosiect yn datblygu llwyddiant y "Siop Gytundebau" a ddechreuodd yng ngogledd Cymru ac a gynhaliwyd mewn sawl ardal arall ar draws Cymru yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae'r prosiect yn darparu cefnogaeth i hwyluso rhyngfasnachu ac yn darparu cymorth ymarferol i fusnesau er mwyn iddynt sicrhau conctractau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

 

Darperir asgwrn cefn y prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol gan:

 

• Dîm o ddeg Hyrwyddwr Cyflenwyr a fydd yn darparu cymorth un i un i fusnesau er mwyn iddynt gynyddu eu potensial masnachu i'r eithaf. Yr Hyrwyddwr Cyflenwyr ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yw Paul Rogers.

• Gwefan gynhwysfawr sy'n darparu gwybodaeth am yr holl fentrau BaCh sy'n cymryd rhan yn www.contractshop.co.uk

 

Mae'r Siop Gytundebau'n darparu

 

• Cyfeirlyfr manwl o 6,000 o fusnesau ledled Cymru. Mae'r cyfeirlyfr wedi'i strwythuro yn ôl ardal a diwydiant sy'n ei gwneud yn hawdd i chwilio am y prynwr neu'r gwerthwr cywir yn agos i chi.

• Gwasanaeth postio gofynion sy'n hawdd ei ddefnyddio sy'n rhoi'r gallu i chi hysbysebu eich anghenion prynu a gwerthu pryd bynnag y maent yn digwydd.

• Manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau cefnogi yn eich ardal chi.

 

Gallwch ymuno am ddim ar-lein yn www.contractshop.co.uk neu gysylltu â'ch hyrwyddwr cyflenwyr neu gydlynydd lleol (manylion isod) am ffurflen gofrestru.

 

Beth yw manteision ymuno?

 

• AELODAETH AM DDIM ar ôl cymeradwyo eich cofrestriad ar-lein. Bydd manylion eich busnes yn cael eu rhoi ar y wefan a'u harddangos fel eich gwedudalen unigol.

• MYNEDIAD AM DDIM i un o'r prif safleoedd cyfeirio ar gyfer busnesau yng Nghymru. Hyrwyddir y safle ledled y DU ac mae cofrestru â'r holl brif gyfleusterau chwilio hefyd yn sicrhau bod y safle'n hygyrch ar draws y byd.

• GWYBODAETH A DDIWEDDARIR YN RHEOLAIDD Mae aelodau newydd ac eitemau newyddion o'r Hyrwyddwyr Cyflenwyr yn cael eu hychwanegu'n barhaus. Bydd prynwyr mawr yn gallu defnyddio'r safle i chwilio am nwyddau a gwasanaethau.

• ADNODD PENODOL Mynediad i Hyrwyddwyr Cyflenwyr a Gweinyddwyr Lleol.

 

 

Am wybodaeth bellach, i ofyn am gymorth un i un gyda thendro a materion cysylltiedig eraill neu gymorth wrth gofrestru ar-lein cysylltwch â:

 

Eich Hyrwyddwr Cyflenwyr Lleol - Paul Rogers 01792 817575 neu This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it  . Diogelir y cyfeiriad e-bost hwn rhag negeseuon sbam, felly mae angen Javascript arnoch i'w weld.

 

Eich Gweinyddydd Lleol - Helen Beddow 01792 545076 neu This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it . Diogelir y cyfeiriad e-bost hwn rhag negeseuon sbam, felly mae angen Javascript arnoch i'w weld.

 

 
< Blaenorol   Nesaf >