-Ydych chi'n cynnal busnes gyda Dinas a Sir Abertawe ar hyn o bryd? |
|
|
|
|
Newidiadau pwysig i Broses Rheoli Anfonebau'r Cyngor y mae angen i chi wybod amdanynt: Mae'r Cyngor yn newid y ffordd y mae'n prosesu anfonebau a dderbyniwyd er mwyn eu talu'n fwy prydlon. Bydd y newidiadau hyn ar waith o fis Tachwedd 2006. I osgoi oedi wrth dderbyn taliadau mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich anfonebau'n cynnwys y manylion canlynol:-
Enw a chyfeiriad llawn y Cyflenwr gan gynnwys y côd post ac enw cyswllt os yw'n bosib Rhif Archeb Swyddogol Rhif Anfoneb Enw a chyfeiriad y Cwsmer, a dylid cyfeirio pob anfoneb i: Dinas a Sir Abertawe Rhif Cofrestru TAW Anfoneb eitemedig (manylion llawn yr holl nwyddau a anfonwyd) Y pris yr uned (os yw'n berthnasol) Math o gyflenwad (gwerthu, hurio, rhentu, etc.) Cyfanswm y cost net Cyfradd TAW a Swm TAW Cyfanswm y Gost Gros (gan gynnwys TAW) Rhannu rhwng nwyddau 'y gellir codi TAW arnynt' a rhai 'na ellir codi TAW arnynt' (os yw'n berthnasol) Rhif Cofrestru'r Cwmni (os yw'n berthnasol) Dyddiad danfon, rhif y ddanfoneb a'r cyfeiriad danfon Cyfradd ddisgownt a Thelerau Talu (os yw'n berthnasol) Dewisol: Manylion Banc (os oes angen talu drwy BACS) Unrhyw delerau ac amodau arbennig o ran CITDS (Cynllun Didynnu Treth y Diwydiant Adeiladu), mae'n rhaid i Is-gontractwyr nodi'r llafur a'r deunyddiau ar wahân ar yr anfoneb.
I helpu i sicrhau eich bod yn cael eich talu'n brydlon, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich anfoneb i'r cyfeiriad a nodwyd ar bob archeb brynu unigol a anfonwyd atoch. Yn ystod y misoedd i ddod bydd y cyfeiriad anfonebu ar y rhan fwyaf o'n harchebion prynu'n newid i'r canlynol:
Dinas a Sir Abertawe, Uned Rheoli Taliadau, Blwch Post 535, ABERTAWE, SA1 9DT yn hytrach nag adrannau unigol fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Dylai sefydliadau fod yn ymwybodol y bydd oedi wrth dalu anfonebau a gyflwynwyd heb y manylion hyn (yn enwedig yr eitemau mewn teip trwm), tra bod manylion yr archeb a'r anfoneb yn cael eu gwirio.
Atgoffir cyflenwyr lleol sydd wedi'u lleoli yn ardaloedd côd post SA1 i SA8 y gallwn ni yn y Ganolfan Fusnes ddarparu cefnogaeth a chyngor ar wella eu systemau rheoli busnes. Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it . Neu ffoniwch 01792 545050 os hoffech fanteisio ar y gwasanaethau cefnogi busnes sydd ar gael.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud:
Pan fydd yn berthnasol, newidiwch eich cofnodion ar gyfer anfon anfonebau atom. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen yn ôl rheoliadau TAW, i helpu'r Cyngor i dalu eich anfonebau'n brydlon. Os nad yw'r ateb i'ch cwestiwn uchod, cysylltwch â'r ddesg cefnogi taliadau (e-bost This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it . Neu ffoniwch 01792 636374) |
| < Blaenorol |
|---|