Cyngor ar Dechnoleg Arloesol |
|
|
|
|
Defnyddir Cynghorwyr Arloesedd a Thechnoleg (CATh) gan Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyno cyngor technegol a thechnoleg arloesol i fentrau bach a chanolig.
Mae CATh yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor a chefnogaeth sy'n ymwneud â chyflwyno cynnyrch a phrosesau newydd, rhoi technoleg newydd ar waith a'i diweddaru a gwybodaeth am dechnoleg 'tra fodern' a safonau arfer gorau.
Mae CATh yn darparu cyngor a chefnogaeth ar amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys:
Masnacheiddio syniadau arloesol, gan gynnwys trwyddedu ymchwil a datblygiad, dylunio a datblygu cynnyrch/proses newydd Rhoi technoleg newydd ar waith Mynediad i gefnogaeth ariannol, gan gynnwys grantiau arloesedd Datrys problemau technegol Rhwydweithiau technoleg
Maent hefyd yn darparu cysylltiadau â sefydliadau academaidd, unrhyw agweddau ar dechnoleg ac amrywiaeth o rwydweithiau a fforymau, gan gynnwys hwyluso rhwydwaith arloeswyr Cymru. |
| < Blaenorol | Nesaf > |
|---|