Gweithio gyda'r Sector Cyhoeddus |
|
|
|
|
Mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru'n gymhleth ac yn amrywiol gyda mwy na 100 o sefydliadau prynu a channoedd ar gannoedd o brynwyr. Mae'n farchnad enfawr gan wario dros £4 biliwn y flwyddyn ar waith, nwyddau a gwasanaethau.
Mae cyrff Sector Cyhoeddus yn rhwym wrth Gyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd (UE). Nod y cyfarwyddebau hyn yw sicrhau bod caffael sector cyhoeddus yn hybu symudiad rhydd cyflenwadau a gwasanaethau yn yr UE. Mae hyn yn sicrhau gonestrwydd ac eglurder o ran caffael sector cyhoeddus.
Mae Awdurdodau Lleol yn dilyn rheolau ar gyfer contractau cyhoeddus sy'n ddibynnol ar werth y contract. Dros drothwyon penodol mae'n rhaid i sefydliadau Sector Cyhoeddus hysbysebu eu contractau yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU), a byddant hefyd yn ymddangos ar y wefan Caffael Cenedlaethol - sell2wales. Mae'r mwyafrif helaeth o gyrff Sector Cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn cyhoeddi contractau islaw'r trothwy Ewropeaidd ar www.sell2wales.co.uk.
Trothwyon Ewropeaidd cyfredol fel yr oeddent ar 1 Ionawr 2006:
Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim a gallech hefyd dderbyn grant cychwyn busnes ar ôl cwblhau cynllun busnes yn llwyddiannus. Contractau Cyflenwadau £144,371 Contractau Gwasanaethau £144,371 Contractau Gwaith £3,611,319
Dinas a Sir Abertawe
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gweithredu system gaffael ddadganoledig a gefnogir gan yr Uned Caffael Strategol. Defnyddir Rhestr Gymeradwy o Gontractwyr a Chyflenwyr ar gyfer caffael islaw trothwyon cyfarwyddeb gaffael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r cyngor hefyd yn hysbysebu contractau trwy'r wefan Sell2wales (www.sell2wales.co.uk) a'r Cyfnodolyn Ewropeaidd, y gellir ei gyrchu hefyd trwy wefan Sell2wales.
I ganiatáu am adolygiadau sydd ar ddod a newidiadau i systemau gweithredu o dan raglen e-Lywodraeth y cyngor, gohiriwyd ceisiadau newydd i'r Rhestr Gymeradwy. Mae'r cyngor wedi cychwyn gwefan y gall cyflenwyr gofrestru arni i fynegi diddordeb am gael eu hystyried yn y dyfodol.
Cyfeiriad y wefan yw swansea.alito.co.uk .
Mae'r ddogfen amgaeedig yn cynnwys nodiadau ar lywio ac arweiniad i'r wefan sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o gymorth ar y sgrîn.
Lawrlwytho'r PDF Canllawiau ar gyfer Cyflenwyr
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen isod i fynd i wedudalennau caffael Dinas a Sir Abertawe. www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=11757 .
I gael gwybodaeth am y gefnogaeth fusnes sydd ar gael i'ch helpu chi i dendro am waith yn y Sector Cyhoeddus, cliciwch yma i ddarllen am y Prosiect Datblygu Cyflenwyr Lleol. |
| < Blaenorol |
|---|