Hyfforddiant Busnes

PDF Argraffu  E-bost

Cychwyn busnes yw un o'r penderfyniadau pwysicaf y gall unigolyn ei wneud. Lluniwyd ein cyrsiau hyfforddiant busnes i ddarparu'r sgiliau a'r gefnogaeth y mae eu hangen ar entrepreneuriaid i gyflawni'r heriau sydd o'u blaenau.

 

Cynhelir y cyrsiau a amlinellir isod drwy'r flwyddyn yng Nghanolfan Fusnes Abertawe

Sesiwn Undydd i Gynyddu Ymwybyddiaeth - Cychwyn eich Busnes eich Hun

 

Mae'r cwrs undydd hwn yn rhoi cyflwyniad i "fod yn rheolwr arnoch chi eich hun":

 

◆ Pam cychwyn busnes

◆ Manteision ac anfanteision hunangyflogaeth

◆ Agweddau cyfreithiol ar gychwyn busnes

◆ Ffynonellau Cyllid

◆ Cefnogaeth gan Ganolfan Fusnes Abertawe

◆ Cyflwyniad i Gynllunio Busnes

 

Cwrs 3 Diwrnod - Cynllunio Busnes

 

Mae'r cwrs hwn yn darparu'r hyn y mae ei angen arnoch i gynhyrchu cynllun busnes ymarferol

 

◆Hunanwerthuso - cymhelliad, addasrwydd, gwybodaeth am y cynnyrch, cefnogaeth

◆Marchnadoedd a Chystadleuwyr - ymchwil i'r farchnad, maint a thueddiadau'r farchnad, cwsmeriaid, cystadleuwyr, hysbysebu a hyrwyddo

◆Datblygu Strategaeth Farchnata – amcanion marchnata, cynnyrch, pris, lle a hyrwyddo, gwerthu, gofal cwsmeriaid

◆Gweithrediadau – adeiladau, cyfarpar, cyflenwadau/deunyddiau, cyflogi pobl, systemau a gweithdrefnau

◆Costio a Phrisio - costau busnes, prisio, eich cyfrifiad adennill costau

◆Cynllunio Ariannol a Gweinyddu - rhagolwg llif arian, Cyfrif Elw a Cholled, Rhagweld Gwerthiannau

◆Cyllid y Wlad, TAW, Yswiriant Gwladol, PAYE, Bancio Busnes

◆Cynllunio Busnes

 

Cwrs Undydd - Cadw Cyfrifon a Chyfrifon Blynyddol

 

Mae'r cwrs hwn yn ymwneud ag agweddau ariannol allweddol rhedeg busnes:

 

◆ Arweiniad ar gadw cyfrifon

◆ Sut i gwblhau Rhagolwg Llif Arian, Cyfrif Elw a Cholled

◆ Sut i ragweld gwerthiannau

◆ Sostio a Phrisio

 

Cwrs Undydd - Marchnata

 

Mae strategaeth farchnata effeithiol yn ganolog i lwyddiant unrhyw fusnes. Dysgwch sgiliau a thechnegau marchnata a sut y gallant ychwanegu at lwyddiant busnes:

 

◆ Cyflwyniad i Farchnata

◆ Ymchwil i'r Farchnad

◆ Strategaeth Farchnata

 

 

Cynhelir y cyrsiau hyn am ddim ar gyfer busnesau yn Ninas a Sir Abertawe.

 
< Blaenorol   Nesaf >