Cefnogaeth ar gyfer Busnesau sydd Eisoes yn Bodoli

PDF Argraffu  E-bost

Mae'r Ganolfan Fusnes yn darparu gwasanaeth cefnogi busnes sy'n cynnig cyngor, arweiniad ac atebion ymarferol ar gyfer busnesau. Ymysg y materion penodol a'r meysydd cymorth mae:

 

 

Adolygiad Busnes
Cynllunio Busnes a Strategol
Rhagamcanion Ariannol
Mynediad i Gyllid
Marchnata
Adnoddau Dynol/Hyfforddiant/Cyngor ar Gyflogaeth

 

Mae'r gwasanaeth wedi cynorthwyo amrywiaeth eang o fusnesau bach a chanolig i gyrraedd sefyllfa o dwf a'r nod yw helpu i ddatblygu sector busnes dynamig, cystadleuol a modern er mwyn cynhyrchu cyfoeth a chyflogaeth ar gyfer y rhanbarth. Daw'r busnesau'n bennaf o'r sectorau gweithgynhyrchu, gwasanaeth a TGCh ac maent yn cynrychioli amrediad o fuddiannau'r sectorau uwch dechnoleg, ymchwil a datblygu, twristiaeth, arloesedd, a hyd yn oed adloniant. Maent oll yn chwilio am gyfleoedd i gynorthwyo wrth dyfu a datblygu eu busnesau, a fydd, yn eu tro, yn arwain at fwy o gyfleoedd cyflogaeth yn Ninas a Sir Abertawe. Mae'r meysydd cymorth yn cynnwys:

 

 

Adolygiadau Busnes

 

Mae Adolygiad Busnes yn galluogi perchenogion/rheolwyr i gamu'n ôl o weithrediadau bob dydd ac archwilio'r busnes yn wrthrychol. Mae rheolwyr sydd wedi cyflawni Adolygiad Busnes yn aml yn disgrifio teimlad o "allu gweld yr hyn sydd dan eich trwyn". Trwy weithio gydag ymgynghorydd a fydd yn eu harwain drwy'r broses ac yn cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig, gall rheolwyr roi'r gorau i 'ymdrechu' â materion dydd i ddydd am fore a chynllunio'n strategol ar gyfer dyfodol tymor byr a thymor hir y busnes.

 

Cynllunio Busnes

 

Cymorth ymarferol wrth ystyried a llunio eich cynllun busnes, sy'n cynnwys strwythur y busnes, cynnyrch a phrisio, ymchwil i'r farchnad, marchnata, cryfderau, gwendidau etc.

Rhagamcanion Ariannol Cynhyrchu rhagamcanion ariannol manwl i fynd gyda'ch cynllun busnes, gan gynnwys rhagolygon llif arian ac elw a cholled a mantolenni.

 

Mynediad i gyllid a grantiau

 

Cymorth wrth nodi a hygyrchu ffynonellau ariannol a grantiau, gan gynnwys cymorth gyda'r broses ymgeisio a chynllunio ariannol.

Cyngor ar Farchnata

 

Cyngor ar ffurfio strategaethau marchnata, datblygu cynlluniau marchnata ac arweiniad ar ymchwilio i'r farchnad.

 

Cyfeirio

 

Nodi rhaglenni cefnogi, sefydliadau a chyfleoedd sy'n darparu gwasanaethau penodol sy'n berthnasol i fodloni amcanion busnes, megis safonau ansawdd, etc.

 

 

Adnoddau Dynol/Hyfforddiant/Cyngor ar Gyflogaeth

 

Arweiniad ar faterion recriwtio, cyflogaeth a hyfforddiant.

 
< Blaenorol   Nesaf >