Cychwyn eich busnes eich hun |
|
|
|
|
Os ydych chi'n cychwyn busnes newydd yn y dyfodol agos neu'n ystyried hunangyflogaeth am y tro cyntaf, bydd y Rhaglen Cychwyn Busnes Newydd yn darparu cymorth a chefnogaeth werthfawr i chi.
Ariennir a rheolir y rhaglen gan Gynulliad Cymru. Mae gan Gynulliad Cymru gontractau â nifer o sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno'r rhaglen. Canolfan Fusnes Abertawe yw un o ddarparwyr y rhaglenni hyn yn ardal Abertawe.
Manteisiwch yn llawn ar y cymorth y gall y rhaglen ei ddarparu.
Mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim i chi: -
Cychwyn Busnes
Mae'n bur debyg mai cychwyn eich busnes eich hun fydd un o benderfyniadau pwysicaf eich bywyd, felly mae'n bwysig i chi sicrhau mai hwn yw'r cam cywir i chi.
Dewch i'n sesiwn Cychwyn eich Busnes eich Hun i siarad ag un o'n Hymgynghorwyr Busnes profiadol i ystyried eich materion busnes penodol eich hun a'ch helpu i roi eich cynlluniau ar gyfer cychwyn busnes ar waith. Os ydych chi'n cychwyn eich busnes gallech fod yn gymwys i dderbyn Taliad Hybu Busnes o hyd at £200.
Hyfforddiant Cynllunio Busnes
Neilltuwch le ar ein cwrs cynllunio busnes 3 diwrnod, a fydd yn eich helpu i greu cynllun busnes ar gyfer eich busnes newydd ac osgoi problemau posib wrth ddechrau.
Cyrsiau Sgiliau
I'ch helpu i gynyddu eich sgiliau busnes rydym hefyd yn cynnal cwrs Marchnata undydd a chwrs Cadw Cyfrifon a Chyfrifon Blynyddol undydd, a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Fe'ch hanogir chi i gofrestru ar y Rhaglen Cychwyn Busnes Newydd a pharhau i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael i chi. I gofrestru, neilltuo lle neu i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau, cysylltwch â'r Tîm Cyswllt â Chleientiaid yng Nghanolfan Fusnes Abertawe ar (01792) 545050. |
| < Blaenorol | Nesaf > |
|---|