-Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe - Cyhoeddi'r Enillydd

PDF Argraffu  E-bost

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe 2007  a noddwyd gan gwmni cyfreithwyr John Collins a'i Bartneriaid LLP, mewn seremoni fawreddog ar 30 Tachwedd  o dan arweiniad y cyflwynydd ITV, Mai Davies.

 

Dyfarnwyd teitl Menyw'r Flwyddyn Bae Abertawe 2007 i'r Athro Andrea Liggins o Athrofa Abertawe.

 

  1. Mae'r Athro Liggins yn wir ysbrydoliaeth i fenywod ar draws y rhanbarth.  Yn gyntaf, enillodd y categori Rheolwyr cyn mynd ymlaen i gipio'r brif wobr.

 

Rosa Fernandez, Cyfreithwyr John Collins a'i Bartneriaid (chwith) ac enillydd y brif wobr, yr Athro Andrea Liggins

 

Andrea yw Deon y Gyfadran Celf a Dylunio, sydd ag 800 o fyfyrwyr a 90 aelod staff amser llawn neu ran-amser. Bu cyfraniad Andrea'n allweddol wrth ddatblygu ac adleoli'r Gyfadran i'r safle Dinefwr newydd. Roedd symud y Gyfadran Celf a Dylunio i leoliad newydd yn sbardun i nifer o fentrau a phrosiectau newydd.

 

Er ei bod yn gweithio mewn proffesiwn a reolir gan ddynion yn bennaf, mae Andrea wedi llwyddo i gyflawni llawer yn ei phroffesiwn ac yn y byd academaidd. Mae ganddi ddiddordeb ysol mewn ffotograffiaeth. Defnyddiodd ei brwdfrydedd a'i huchelgais i ddarparu cyfleusterau ardderchog yn yr Athrofa yng Nghampws newydd Dinefwr, yn ogystal â datblygu ei gyrfa ei hun. Mae'n parhau i hyrwyddo'r celfyddydau mewn diwydiant, a cheisia sicrhau bod ei myfyrwyr yn canfod gwaith. 

 

Dywedodd Roy Phelps, Cadeirydd y Bae mewn Busnes "Bob blwyddyn, mae safon y ceisiadau'n creu argraff arbennig arnom, ac nid yw eleni'n eithriad.  Mae gwaith y menywod hyn yn ysbrydoliaeth.”

 

Enillwyr categorïau 2007 oedd:
• Gwobr Busnes: Lara Johnson, Lara Johnson Lifestyle.
• Gwobr y Gymuned: Deris Williams, Menter Cwm Gwendraeth.
• Gwobr Rheolwyr: Yr Athro Andrea Liggins, Athrofa Abertawe.
• Gwobr Technoleg: Katherine Prescott, Netsima.
• Gwobr Entrepreneur Ifanc: Donna Carless, Dynamic Rock.

 

Proffiliau Enillwyr

 

Noddir Gwobr Busnes gan y Ganolfan Fusnes, Abertawe: fe'i dyfernir i fenywod sydd wedi sefydlu a datblygu eu busnes eu hunain yn llwyddiannus.

 

Lara Johnson (canol), enillydd y Wobr Busnes, y Cyng. Sullivan a chyflwynydd y noson, Mai Davies.

 

  1. Enillydd: Lara Johnson.  Roedd Lara'n frwdfrydig am drin gwallt o oedran ifanc, a symudodd i Lundain i gael y profiad gorau o weithio i'r trinwyr gwallt mwyaf dylanwadol. Ei bwriad bob amser oedd dychwelyd at ei gwreiddiau, ac ym 1995 sylweddolodd fod angen trinwr gwallt i osod safon yn Abertawe, ac agorodd Lara Johnson Lifestyle.

 

Ers hynny, mae Lara wedi cyflawni llawer yn bersonol a thrwy ei busnes, gan ddatblygu tîm talentog o 40 o staff, sy'n gweithio mewn 3 salon. Maent wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol ac wedi mynychu sioeau yn holl brifddinasoedd y byd ffasiwn, gan dynnu sylw at drinwyr gwallt Cymreig mewn diwydiant cystadleuol iawn. 

 

Mae'r busnes yn y Mwmbwls yn cael ei ail-ddatblygu er mwyn cynnig gwasanaeth o ansawdd uwch eto, ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu Academi Hyfforddi Ryngwladol, i ddod â hyfforddiant o'r ansawdd uchaf i Gymru.

 

Y rhai a ddaeth yn agos i'r brig yn y categori hwn oedd Mari Thomas, Gemwaith Mari Thomas a Sian Hindle, La Crème Patisserie.


Noddir Gwobr y Gymuned gan Gyngor Sir Gâr: I gydnabod menywod sy'n cyfrannu'n sylweddol i'w cymuned, â phwyslais penodol ar wirfoddoli.  

 

Enillydd: Deris Williams.  Dechreuodd Deris weithio gyda Menter Cwm Gwendraeth yn ôl ym 1991, fel cynorthwyydd.  Chwe blynedd yn unig yn ddiweddarach, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr.

 

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o dan ei chyfarwyddyd, mae Menter Cwm Gwendraeth wedi sefydlu pedair menter gymunedol arall, gan gynnwys; caffi cymunedol, siop lyfrau Gymraeg, clwb ar ôl ysgol a gwasanaeth gyda'r nos i'r henoed mewn dwy Uned Ddamweiniau a Brys yn Sir Gâr.

 

Yn ogystal â'i rôl gyda Menter Cwm Gwendraeth, mae Deris yn cyfrannu'n aml yn wirfoddol at nifer helaeth o grwpiau cymunedol. 
 
Y rhai a ddaeth yn agos i'r brig yn y categori hwn oedd Eiriol Lewis a Marianne Thomas, a Hildergarde Roberts.


Noddir Gwobr Rheoli gan Pauline Kotschy Recruitment: nod y wobr hon oedd cydnabod menywod sydd wedi arddangos sgiliau rheoli ac arwain cryf yn eu rôl, yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.

 

Enillydd: Yr Athro Andrea Liggins, Athrofa Abertawe.

 

Y rhai a ddaeth yn agos i'r brig yn y categori hwn oedd Sue Richards, Age Concern Abertawe a Karen Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.


Noddir Gwobr Technoleg gan ITWales:  roedd y wobr hon yn cydnabod llwyddiant menywod byd busnes, addysg neu'r sector gwirfoddol sy'n cael effaith sylweddol o fewn eu sefydliad trwy ddatblygu neu reoli technoleg, ei rhoi ar waith neu ei symud ymlaen.

 

Enillydd: Katherine Prescott, Netsima.  Gwaith busnes Katherine yw troi anghenion technolegol ei chleientiaid yn realiti.  Mae Netsima'n arbenigo mewn creu cymwysiadau busnes wedi'u hwyluso gan y we ar gyfer cwmnïau o faint canolig yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae Katherine yn ddatblygwr a chynghorydd busnes. Bydd yn derbyn amlinelliad o system feddalwedd, ond trwy gael rhagor o wybodaeth am fusnes y cwsmer a'r modd y byddant yn defnyddio system newydd, cynigia Netsima system unigryw sy'n addas i'r cwsmer, i wneud y gwaith sy'n ofynnol.

Prif sgiliau Katherine yw ei gallu i ddeall natur gwaith y cleientiaid yn llwyr - o'r herwydd, gall sicrhau bod ganddynt y systemau y mae arnynt eu hangen mewn gwirionedd.

Mae hi'n hyrwyddwraig dda ar gyfer defnyddio technoleg, a'r modd y gall fod â diben go iawn ym mywydau pobl.

 

Y rhai a ddaeth yn agos i'r brig yn y categori hwn oedd  Eileen Lloyd, Timet UK a Susan Rodaway, Temporary Teachers.


Noddir Gwobr Entrepreneur Ifanc gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: Roedd y wobr hon yn cydnabod menywod ifanc sydd wedi dangos menter ac awydd i sefydlu eu busnes eu hunain yn llwyddiannus

 

Enillydd: Donna Carless, Dynamic Rock.  Penderfynodd Donna, a'i phartner Adam, droi eu diddordeb mawr mewn dringo creigiau yn fusnes.  Yn ystod seibiant gyrfa o 3 mis, ymchwiliodd Donna'r syniad o sefydlu canolfan ddringo dan do, a ddaeth i fod yn Dynamic Rock Limited.    Gyda chymorth nifer o gefnogwyr ariannol, cawsant adeilad yng Nghlydach, Abertawe, a gwnaethant dreulio 8 mis yn cwblhau gwaith ailwampio sylweddol er mwyn gwireddu eu breuddwyd.

 

Bellach, defnyddir y busnes gan bobl o bob rhan o'r DU sy'n hoff o ddringo  yn sgil adroddiadau clodwiw ar wefannau ac mewn cylchgronau dringo arbenigol.


Cwblhaodd Donna gwrs hyfforddi, ac eleni cynorthwyodd â'r gwaith o hyfforddi Carfan Ieuenctid Cymru.  Datblygwyd y Ganolfan ac enillodd drwydded werthfawr gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA), ac mae hi hefyd wedi ehangu i ddarparu cyrsiau a chyfarwyddyd awyr agored mewn abseilio, cerdded trwy geunentydd a chaiacio. 

 

Cred Donna mai dynion sydd flaenllaw ym maes dringo o hyd, ond teimla ei bod ar flaen y gad yn y newid diwylliannol sydd ar droed yn y gamp - ac mae hi'n benderfynol o gystadlu'n fwy aml ac ar lefelau uwch er mwyn hybu achos dringwyr benywaidd!

 

Y rhai a ddaeth yn agos i'r brig yn y categori hwn oedd Helen Rhiannon Gill, Helen Rhiannon Designs a Sian Ridd o Molly's Catering.

 

Dywedodd Paul Newman ar ran noddwyr y digwyddiad, John Collins a'i Bartneriaid “Nod Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe yw hyrwyddo a chefnogi datblygu busnes ac entrepreneuriaeth, sy'n adleisio gweithgareddau John Collins a'i Bartneriaid yng Nghymru. Dyma'r bedwaredd flwyddyn i ni ddewis cefnogi'r gwobrau, sy'n dangos ymrwymiad y cwmni i ddatblygu diwylliannol a chymunedol yn lleol.  Mae hi wedi bod yn noson ddifyr iawn, ac roedd cwrdd â'r rhai a ddaeth i'r brig a'r enillwyr yn fuddiol ac yn ysbrydoliaeth i mi”.  

 

Daeth dros 390 o bobl ar draws Bae Abertawe ynghyd yn Neuadd Brangwyn, Abertawe i ddathlu cyflawniadau menywod a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i'w cymunedau trwy fusnes, rheoli, technoleg a gwaith cymunedol.   Roedd y noson hefyd yn cynnwys perfformiadar ôl y cinio gan y gomediwraig arobryn, Jenny Éclair.

 

Am ragor o wybodaeth am Wobrau Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe, cysylltwch â Sarah Toomey, Cydlynydd Digwyddiadau'r Bae mewn Busnes ar 01792 545066.

 
< Blaenorol   Nesaf >