|
Gwasanaeth a ddarperir gan Ddinas a Sir Abertawe yw Canolfan Fusnes Abertawe sy'n cynnig gwasanaeth cefnogi busnes cynhwysfawr i fusnesau bach yn ardaloedd Bae Abertawe. P'un a ydych yn fusnes sydd eisoes yn bodoli neu'n cychwyn, gall y Ganolfan Fusnes gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi i ddiwallu eich anghenion busnes. Mae gennym dîm o arbenigwyr wrth law i helpu gyda phob agwedd ar gefnogi a datblygu busnesau i'ch cynorthwyo i droi eich syniad yn fenter fusnes go iawn. Mae gennym hefyd fynediad i amrywiaeth eang o grantiau cefnogi busnes, sydd ar gael trwy raglenni amrywiol a gynhelir yn y ganolfan. |